Ateb y Galw: Gareth Charles

  • Cyhoeddwyd
Gareth CharlesFfynhonnell y llun, Gareth Everett/Huw Evans Agency

Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Dot Davies yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded i'r ysgol am y tro cynta' i Ysgol Ponthenri 'da'n ddau frawd. Roedd shorts streip reversible smart iawn 'da fi!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Raquel Welch yn ei bicini croen anifail yn y film One Million Years BC. Ro'n i'n chwech oed pan ddaeth y ffilm mas!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Sownd mewn traffic ar gyrion Abertawe a chlywed Lyn Davies ar Radio Wales yn disgrifio Paul Thorburn yn sgori dau gais i Gastell Nedd yn erbyn Abertawe wedyn troi i Radio Cymru a chlywed y cyflwynydd Alun Jenkins yn ymddiheurio am y "trafferthion technegol" yn cysylltu â Gareth Charles a Brynmor Williams yn Sain Helen! Wps.

Disgrifiad o’r llun,

Raquel Welch yn cadw'r heddwch rhwng Adam Jones a Richard Hibbard

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mewn angladd rhyw ddeufis nôl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Llwyth. Craco knuckles yn mynd ar nerfs rhai pobl. Fi'n ofnadwy o funud ola' - o ran gwneud gwaith a mynd i lefydd - gas 'da fi gyrraedd yn gynnar a gorfod sefyllian ambwyti am hydoedd.

P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Aberogwr - lle gwych i fynd am wâc 'da'r ci tra'n mwynhau golygfeydd gwych, ac mae'n gyfleus i gyrraedd o Gaerdydd. A ma' cwpwl o dafarndai deche gerllaw 'fyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Sawl un, o City Rowers, Brisbane i Buenos Aires News i Heol Sardis. Un o'r dyddiau gorau oedd ymweliad â gwinllan ger Christchurch ar daith y Llewod 2005.

Roedd hanner dwsin o bob math o winoedd coch a gwyn i gyd o Seland Newydd ac roedd modd blasu faint bynnag o be' bynnag. Ac roedd pryd o fwyd gan un o chefs gorau'r wlad gyda gweddill y gwin! Diwrnod da neu be'!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Swil, mewnblyg, sbort.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ganddo'r sedd orau yn y stadiwm ond mae'n sefyll i sylwebu!

Beth yw dy hoff lyfr?

Newid drwy'r amser. Un o'n hoff awduron yw David Mitchell (nid y digrifwr!). Naill ai Number 9 Dream neu Cloud Atlas falle. Yn Gymraeg Bob yn y Ddinas gan Sion Eirian. Ddarllenes i pan es i i Brifysgol Caerdydd.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Oriawr - er mwyn gallu gadel pethau tan y funud ola'!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Weles i ryw 10 ar y ffordd nôl a 'mlaen i Seland Newydd yn yr haf - bron yr unig adeg y byddai'n gweld ffilmiau. Un o'r goreuon oedd Legends a pherfformiad rhyfeddol Tom Hardy fel Ronnie a Reggie Kray.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Bob Hoskins.

Dy hoff albwm?

Newid drwy'r amser yn dibynnu ar y mood. O bosib rwbeth gan Jackson Browne - The Pretender neu Late For The Sky.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Fi wrth fy modd 'da 'bitsach'. Joio lot o flasau gwahanol - ffili deall neb sy' ddim yn fodlon rhannu bwyd! Wrth lwc dwi wrth fy modd â salad felly'r peth delfrydol i fi byddai buffet o salads o safon gan gynnwys cigoedd, bwyd môr a chawsiau fel gallen i ga'l plat bach starter, plat bach main a phlat bach pwdin! Ond bydde rhaid cael chardonnay deche i fynd 'da fe.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy nghi, Sianco - mae yffach o fywyd 'da fe!

Disgrifiad o’r llun,

Yr arbenigwr rygbi yn rhannu ei ddoethinebau am garfan Warren Gatland gyda Gareth Charles

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Carolyn Hitt.