Rhybudd bod canslo llawdriniaethau yn arferiad 'normal'

  • Cyhoeddwyd
LlawdriniaethFfynhonnell y llun, SPL

Mae canslo llawdriniaethau yn dod yn arferiad "normal" mewn ysbytai yng Nghymru, yn enwedig yn y gaeaf, oherwydd galw aruthrol am ofal brys.

Dyna rybudd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon sy'n dweud y gallai pwysau'r gaeaf yma fod mor drwm a'r gaeaf diwethaf.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod 84,477 o lawdriniaethau oedd wedi eu trefnu wedi eu canslo yng Nghymru yn 2015/16, sy'n chwarter o achosion newydd.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen i'r gwasanaeth iechyd wneud mwy i beidio canslo llawdriniaethau, maen nhw'n annog cleifion i "rannu'r cyfrifoldeb".

Dim lle mewn ysbytai

Mae llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu, fel rhai i osod cymalau newydd, yn cael eu canslo pan fo ysbytai yn llawn cleifion gofal brys ac nad oes gwlâu ar gael.

Ond mewn cyfnodau pan fydd y galw yn uchel, fel y gaeaf, mae llawdriniaethau cymhleth fel rhai canser neu fasgwlaidd hefyd yn gallu cael eu gohirio am nad oes gwlâu mewn unedau gofal dwys.

Er bod pwysau ar wasanaethau, mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod bron i hanner y llawdriniaethau yn cael eu gohirio am fod claf yn canslo neu ddim yn cyrraedd apwyntiad.

Disgrifiad,

Roedd rhaid i Nicola Benny aros ar ôl i'r ysbyty ohirio ei llawdriniaeth sawl tro

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Mae'r ffigyrau ar gyfer Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dangos bod mwy 'na 3,500 o lawdriniaethau wedi eu canslo mewn ysbytai o fewn tri diwrnod i ddyddiad yr apwyntiad yn 2015/16, gan gynnwys mwy na 2,000 ar ddiwrnod y llawdriniaeth.

Roedd nifer y llawdriniaethau gafodd eu canslo ar ei uchaf yn ystod y gaeaf.

Mae'r ffigwr ar gyfer llawdriniaethau gafodd eu canslo gan gleifion o fewn tri diwrnod i ddyddiad yr apwyntiad yn 2015/16 hyd yn oed yn uwch - dros 5,100.

Mae arolwg gan Swyddfa Archwilio Cymru eleni wedi amlygu ei bod hi'n anodd cymharu perfformiadau ar draws Cymru. Ond casgliad yr arolwg oedd mai diffyg gwlâu oedd y prif reswm pam fod llawdriniaethau wedi eu canslo ar fyr rybudd mewn 14 o ysbytai.

Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod bod mwy na 11,500 o gleifion wedi cael gwybod y byddai eu llawdriniaeth yn cael eu canslo ar ôl iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tim Havard roedd y gaeaf diwethaf yn un o'r rhai anoddaf iddo wynebu oherwydd y pwysau ar wasanaethau

Yn ôl y llawfeddyg Tim Havard, sy'n cynrychioli'r Coleg Brenhinol yng Nghymru, fe barodd effeithiau'r gaeaf diwethaf tan yr haf.

Dywedodd y gallai problemau tebyg ddigwydd eto: "Fydd yna ddim diffyg ymdrech gan fyrddau iechyd a staff ysbytai i ddelio gyda chynifer o gleifion a phosib heb eu bod nhw'n gorfod aros i mewn, darparu triniaeth i gleifion yn syth pan maen nhw'n cyrraedd fel nad oes yn rhaid iddyn nhw aros dros nos.

"Ond hyn a hyn allwn ni wneud... Alla i ddim bod yn hyderus na fydd yna bwysau ychwanegol y gaeaf yma."

'Penderfyniadau anodd'

Ychwanegodd bod y sefyllfa yn mynd yn fwy anodd gan fod llai o wlâu mewn ysbytai a bod y boblogaeth yn byw yn hŷn.

"Dyma lle mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â lleoli adrannau brys ac os ydyn ni yn mynd i gael ein holl ysbytai yn gwneud gwaith argyfwng a dewisol.

"Os ydyn ni eisiau canolbwyntio ar reoli ein gwaith dewisol a chadw i fynd yn ystod y gaeaf, fe allai olygu ad-drefnu er mwyn gwahanu'r elfennau yna o'r gwaith."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra bod angen i'r gwasanaeth iechyd wneud mwy i osgoi canslo triniaethau am resymau sydd ddim yn rhai clinigol, rydym eisiau creu GIG lle mae pawb yn gyfrifol amdani, lle bydd pobl yn cadw at eu hapwyntiadau ac yn hysbysu'r GIG cyn gynted a phosib os nad oes angen triniaeth fel y gall person arall sydd angen triniaeth lenwi'r bwlch."

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth: Canslo llawdriniaethau'n 'bryder mawr'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "bryder mawr bod adnoddau y gwasanaeth iechyd...ddim yn cael eu defnyddio i'r eithaf" ac mai'r rheswm oedd "diffyg rheolaeth".

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, mae canslo llawdriniaethau "nid yn unig yn gwastraffu miliynau o bunnau bob blwyddyn ond yn achosi pryder mawr i gleifion bregus".

"Fodd bynnag, dydw i ddim yn hoffi agwedd Llywodraeth Cymru wrth roi'r pwyslais ar gleifion. Mae'n broblem logistaidd sydd wedi bodoli ers blynyddoedd, ac fe ddylen ni fod wedi gallu ei datrys erbyn hyn."