Dirywiad byd natur Cymru'n 'syfrdanol'

  • Cyhoeddwyd
cornicyll, morlo llwyd, dyfrgi a brith perladeiniogFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cornicyll, y morlo llwyd, y dyfrgi a'r brith perl adeiniog mewn perygl yng Nghymru

Yng Nghymru, mae un allan o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr yn ôl ystadegau gafodd eu casglu fel rhan o adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016.

Mae dros 50 o'r cyrff cadwraeth mwyaf blaenllaw o bob rhan o'r wlad wedi cydweithio i gasglu'r wybodaeth er mwyn pwysleisio sefyllfa byd natur yma.

Dyma'r ail gyhoeddiad o'r fath, yn dilyn prosiect tebyg yn 2013.

Mae'r cyflwynydd teledu a bywyd gwyllt, Iolo Williams wedi dweud bod dirywiad bywyd gwyllt Cymru "yn syfrdanol" a bod llawer o rywogaethau yn prinhau ar "raddfa frawychus".

Gwell yng Nghymru

Dywedodd bod yr adroddiad yn dangos sut y gallai "camau gweithredol parhaus" a "phrosiectau arloesol" helpu i wrthdroi'r dirywiad, ac mae'n annog gwyddonwyr, cymunedau lleol, busnesau a'r llywodraeth i gydweithio i greu "dyfodol llawer mwy disglair" i genedlaethau'r dyfodol.

Er hynny, mae'r sefyllfa'n well yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ble mae 1 ym mhob 10 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr.

Yn dilyn cyhoeddiad oedd yn edrych ar y sefyllfa ar draws y DU, bydd lansiad yr adroddiad Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Mercher, gyda llu o gerddorion, beirdd, artistiaid graffiti a diddanwyr syrcas yno i bwysleisio pwysigrwydd byd natur mewn cyfres o berfformiadau byw.

Prif gasgliadau'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016:

  • Dros y tymor hir, prinhaodd 57% o rywogaethau o blanhigion fasgwlar ac fe gynyddodd 43%. Nid oedd newid yn y patrwm hwn dros y tymor byr;

  • Prinhaodd 60% o rywogaethau o loÿnnod byw ac fe gynyddodd 40% dros y tymor hir, tra prinhaodd 37% o rywogaethau a chynyddodd 63% dros y tymor byr;

  • Dros y tymor hir, prinhaodd 40% o rywogaethau o adar ac fe gynyddodd 60%. Dros y tymor byr, prinhaodd 58% o rywogaethau a chynyddodd 42%;

  • Aseswyd dros 5,000 o'r rhywogaethau yr ydym yn gwybod sydd yn ymgartrefu yng Nghymru wrth ddefnyddio meini prawf y Rhestr Goch gyfoes. Mae 354 (7%) mewn perygl o ddifodiant ym Mhrydain.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iolo Williams bod dirywiad bywyd gwyllt Cymru "yn syfrdanol"

Mae'r adroddiadau'n awgrymu bod colledion net o ran bioamrywiaeth yn digwydd o ganlyniad i bwysau parhaol ac, mewn rhai achosion, pwysau sy'n dwysau.

Dywedodd Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru, ac un o awduron yr adroddiad, Stephen Bladwell mai "dyma'r tro cyntaf i ni wybod cymaint â hyn am sefyllfa byd natur yng Nghymru a'r bygythiadau iddo".

Ychwanegodd ei bod yn "amlwg" mai newidiadau i ddulliau rheoli tir a newid hinsawdd yw'r ddau brif ffactor sy'n cael effaith ar fyd natur.

Er hynny, dywedodd bod newyddion da gan fod mesurau cadwraeth yn gallu gwyrdroi'r sefyllfa, a bod hynny i'w weld gyda'r "cynnydd yn nifer y dyfrgwn ac ystlumod, yn ogystal â gloÿnnod byw, fel yr ieir bach modrwyog, ac adar, fel y barcud".

Pwysau a bygythiadau ar fyd natur yng Nghymru:

  • Colli a diraddio cynefin, megis colli gorgorsydd;

  • Darnio ac ynysu cynefinoedd am sawl rheswm, megis datblygiad anaddas;

  • Cynnydd ym mhoblogaeth pobl;

  • Newid hinsawdd;

  • Mewnbwn eithafol o faetholion a ffurfiau eraill o lygredd;

  • Gor-ecsbloetio a defnydd anghynaladwy, yn cynnwys pwysau amaethyddol;

  • Rhywogaethau dieithr ymledol, er enghraifft Rhododendron yn Eryri.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae aderyn y pâl a madarchen waxcap yn ddwy rywogaeth arall sydd mewn perygl yng Nghymru

Cymru yn yr 20% isaf

Mae'r adroddiad yn nodi bod rhagdybio'r ystadegau yn anodd yn sgil diffyg data, a dibynadwyedd data.

Y bwriad yw goresgyn hyn drwy ddefnyddio mesur newydd, y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII), sy'n edrych ar ôl-troed dynoliaeth ar ardal.

Byddai ardal sydd heb gael ei effeithio o gwbl gan ddynoliaeth yn cael sgôr o 100%.

Yr awgrym yw bod gwerthoedd BII o dan 90% yn dangos bod ecosystemau o bosib wedi cwympo'n is na'r pwynt lle gellir dibynnu arnyn nhw i ateb anghenion cymdeithas.

Sgôr Cymru yw 82.8%, sy'n golygu bod y wlad yn yr 20% isaf o'r holl wledydd gafodd eu hasesu.

Er hynny mae'r canlyniad yn well o'i gymharu â gweddill y DU.

Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII) y DU:

  • Cymru - 82.8%

  • Lloegr - 80.6%

  • Yr Alban - 81.3%

  • Gogledd Iwerddon - 80%

  • Cyfartaledd y DU - 81%