'Argyfwng' meddygon teulu yn gwaethygu meddai'r BMA

  • Cyhoeddwyd
DogfennauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r "argyfwng" sy'n wynebu meddygon teulu yn rhannau o Gymru yn gwaethygu - a mwy o feddygfeydd nag erioed dan fygythiad.

Dyna'r rhybudd gan feddygon blaenllaw o Gymdeithas Feddygol y BMA sy'n dweud y gallai rhagor o feddygon adael eu swyddi oni bai fod 'na gynnydd yn yr arian sy'n cael ei wario ar wasnaethau iechyd sylfaenol.

Mae'r gymdeithas hefyd yn dweud, er gwaetha sawl rhybudd dros y blynyddoedd, fod newidiadau i ysgafnhau'r baich ar feddygon teulu yn cael eu cyflwyno yn rhy araf - ac nad yw wedi gweld unrhyw welliant mewn tair blynedd.

Yn y cyfamser, mae ffigyrau, sydd wedi dod i law rhaglen Wales Today BBC Cymru, yn awgrymu fod mwy o feddygfeydd nag erioed o'r blaen yng Nghymru naill ai'n cau neu'n gorfod trosglwyddo'i reolaeth i fyrddau iechyd.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos fod cynnydd sylweddol wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwetha yn nifer y meddygfeydd sydd wedi methu parhau yn annibynnol.

Mae Ian Harris yn feddyg teulu ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ac yn siarad ar ran Cymdeithas Feddygol y BMA, yn rhybuddio fod y pwysau mae e a'i gydweithwyr yn ei wynebu yn gallu bod yn annioddefol:

"Rhai dyddiau 's'dim amser gyda chi i fynd i'r tŷ bach a chael bwyd," meddai.

"Mae'r pwysau yn cynyddu flwyddyn i flwyddyn. Dechreuais i yn y feddygfa yma bymtheg mlynedd yn ôl ac o'dd e yn hollol wahanol pryd 'ny.

"Ac 'y ni wedi gweld pethau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn nes bod lot o lefydd nawr yn ffindio fe yn anodd cadw fynd."

Disgrifiad,

Ian Harris yn sôn am wythnos arferol fel meddyg teulu

Dyddiau 13 awr

Mae'n aml yn gweithio dyddiau sydd yn 13 awr ac yn gweld mwy 'na 40 o gleifion.

Ond ar ddiwrnodau pan mae 'na achosion brys neu alwadau ffôn brys, mae'n dweud nad yw hi'n anarferol i siarad gyda 50 o bobol mewn un bore:

"Dwi'n dal i fwynhau'r swydd. Ond rhaid dweud bod e yn dodi straen arno fi a 'nheulu a bod e yn dodi straen ar bobl yn agos i fi hefyd."

Dyw Ian Harris ddim yn cofio'r sefyllfa mor wael â hyn ers iddo ddechrau ei yrfa fel meddyg teulu: "'Y ni yn gweld meddygfeydd yn cau. 'Y ni yn gweld bod dim meddygfeydd i edrych ar ôl y gymuned.

"Mae rhaid bod rhywbeth yn digwydd yn go gloi i wneud yn siŵr bod hwnna ddim yn cynyddu."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Y llynedd fe benododd Llywodraeth Cymru feddyg blaenllaw i arwain ymdrechion i fynd i'r afael â'r heriau.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi, mae Dr Richard Lewis yn cydnabod fod angen ymateb yn gyflymach, gan cynnwys cyflwyno mesurau sydd â'r nod o ysgafnhau'r baich ar feddygon unigol.

Yn eu plith ma 'na gynlluniau i recriwtio rhagor o nyrsys, ffisiotherapyddion a fferyllwyr i fod yn rhan o dimau aml-ddisgyblaeth.

Ond mae Dr Lewis yn cydnabod y bydd angen "rhagor o feddygon teulu" i gynnal gwasnaethau. Eto i gyd, fydd hynny ddim yn ddigon, meddai, i ateb y galw cynyddol ar wasnaethau sylfaenol o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio.

Ond, gwadodd Dr Lewis fod y gwasanaeth ar hyn o bryd yn wynebu "argyfwng", er iddo rhybuddio yn ei swydd flaenorol fel Ysgrifennydd y BMA yng Nghymru, fod na argyfwng recriwtio "ar y gorwel."

Yn ôl Dr Charlotte Jones, Cadeirydd pwyllgor Meddygon Teulu y BMA, mae meddygon teulu yng Nghymru yn wynebu'r "storom berffaith" - yn ceisio trin mwy o gleifion mewn cyfnod pan fo adnoddau yn gynyddol brin.

Er hynny, mae'n dweud fod Cymru mewn gwell sefyllfa i ymateb o gymharu a rhannau eraill o'r DU, oherwydd "parodrwydd Llywodraeth Cymru i weithio gyda ni i ddod o hyd i atebion".

Yn y Rhondda, mae criw o feddygon teulu wedi dod at ei gilydd i geisio delio gyda'r prinder meddygon teulu yn y cwm. Mae dwy feddygfa o dan ofal y Bwrdd Iechyd ac un wedi cau yn yr ardal.

Maen nhw wedi sefydlu clwstwr sydd yn ceisio denu doctoriaid i ddod i weithio yno ac i rannu syniadau. Y nod yw bod cleifion yn gallu cael eu trin gan fwy na jest y meddyg teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon teulu Pont Newydd ym Mhorth yn rhan o'r clwstwr sydd yn ceisio denu doctoriaid i'r ardal

Mae Gwydion Wyn yn gweithio mewn meddygfa yn Y Porth:

"Fel clwstwr mae pob meddyg teulu sydd yn y Rhondda yn dod at ei gilydd ac eistedd lawr a dweud sut allwn ni wella gwasanaethau iechyd dros y Rhondda i gyd a trwy wneud hynny rydyn ni'n gallu rhannu syniadau.

"Pethau ni wedi gwneud, er enghraifft, yw sylwi bod eisiau mwy o help tu allan i feddygfa i weithio gyda ni.

"Felly ni wedi dod a fferyllfeydd mewn a byddwn ni yn cael fferyllon i weithio i'r clwstwr."