Yr heddlu'n ymchwilio i ymgais i ddwyn o fanc
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio wedi i ddyn geisio dwyn o fanc mewn digwyddiad arfog yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gangen Halifax ar Heol Albany yn ardal y Rhath am 12:50 ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Cafodd neb eu hanafu a ni chafodd unrhyw beth ei ddwyn.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau i ddarganfod y dyn sy'n gyfrifol."
Ychwanegodd bod cyllell fawr, menig a helmed beic modur wedi'u darganfod ar Heol Alfred gerllaw.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu gan ffonio 101.