Yr heddlu'n ymchwilio i ymgais i ddwyn o fanc

  • Cyhoeddwyd
Halifax
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gangen ar Heol Albany am 12:50 ddydd Sadwrn

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio wedi i ddyn geisio dwyn o fanc mewn digwyddiad arfog yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gangen Halifax ar Heol Albany yn ardal y Rhath am 12:50 ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Cafodd neb eu hanafu a ni chafodd unrhyw beth ei ddwyn.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau i ddarganfod y dyn sy'n gyfrifol."

Ychwanegodd bod cyllell fawr, menig a helmed beic modur wedi'u darganfod ar Heol Alfred gerllaw.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu gan ffonio 101.