Tîm difa bomiau yn cynnal ffrwydrad yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Tîm difa bomiau

Mae tîm difa bomiau wedi cynnal ffrwydrad dan reolaeth mewn adeilad yng Nghasnewydd.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod y Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd wedi cael ei wagio yn dilyn pryder am eitem amheus ddaeth drwy'r post.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i'r swyddfa am tua 08:15.

Fe wnaeth swyddfa gadarnhau bod pob aelod o staff allan o'r adeilad yn ddiogel yn dilyn "digwyddiad diogelwch" ar y safle, ac maen nhw bellach wedi cael dychwelyd.

Dywedodd yr heddlu bod tîm difa bomiau wedi cynnal ffrwydrad, a'u bod nawr wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Google