Llafur yn llwyddo yn apêl pleidlais arweinyddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor gweithredol y blaid Lafur wedi llwyddo yn ei apêl yn erbyn penderfyniad llys i ganiatáu i aelodau newydd o'r blaid bleidleisio am arweinydd newydd.
Roedd pum aelod newydd wedi herio penderfyniad y blaid nad oedd unrhyw aelodau a ymunodd ar ôl 12 Ionawr yn cael pleidleisio.
Penderfynodd yr Uchel Lys bod hawl i'r aelodau bleidleisio, gan agor y drws i 125,000 o aelodau newydd tebyg i bleidleisio.
Ond ddydd Gwener, daeth cadarnhad bod Llafur wedi llwyddo i wrthdroi penderfyniad yr Uchel Lys.
Yr arweinydd presennol, Jeremy Corbyn, ac AS Pontypridd, Owen Smith sy'n ymgeisio am yr arweinyddiaeth.
Roedd disgwyl i bapurau pleidleisio'r etholiad arweinyddol gael eu hanfon i aelodau ar 22 Awst, a chyhoeddi canlyniad ar 24 Medi.
Wedi'r penderfyniad gwreiddiol gan yr Uchel Lys, roedd Mr Smith wedi galw am ohirio ras yr arweinyddiaeth, i roi mwy o amser i bobl benderfynu.