Hofrennydd mewn damwain ar gopa mynydd yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
y safleFfynhonnell y llun, LlMRT
Disgrifiad o’r llun,

Doedd neb wedi'u hanafu yn y digwyddiad

Mae hofrennydd wedi mynd ar dân ar ôl gorfod glanio'n sydyn ar gopa mynydd yn Eryri.

Roedd yr hofrennydd yn rhan o Uned Hyfforddi Chwilio ag Achub yr Awyrlu sydd wedi ei lleoli yng ngwersyll RAF Fali ar Ynys Môn.

Daeth yr hofrennydd i lawr ar gopa'r Aran ger Yr Wyddfa brynhawn Mawrth, ac fe gafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad.

Yn ôl datganiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, hofrennydd hyfforddi Griffin sy'n cael ei defnyddio gan y Weinyddiaeth ddaeth i lawr.

Roedd pump o bobl ar ei bwrdd ar y pryd - pedwar aelod milwrol ac un aelod o'r cyhoedd - gydag un person arall ar y mynydd.

Mae'r unigolion i gyd yn ddiogel meddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ffynhonnell y llun, Ted McGowan

Fe laniodd yr hofrennydd fel mesur diogelwch ar ôl datblygu problemau technegol, cyn iddi fynd ar dân.

Fe gafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei galw am 13:50 i'r digwyddiad ger Llwybr Watkin yn Llanberis.

Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi dweud bod ymchwiliad wedi ei ddechrau i'r rheswm pam y bu'n rhaid i'r hofrennydd lanio ar frys.

Does dim awgrym hyd yma am ba hyd y bydd yr ymchwiliad yn para.

Ffynhonnell y llun, PHILIPPA NAPPER
Ffynhonnell y llun, Ted McGowan
Ffynhonnell y llun, YG ERYRI A LLYN
Ffynhonnell y llun, TWITTER / YG ERYRI A LLYN