Steddfod a sticeri

  • Cyhoeddwyd

Oeddech chi'n arfer treulio wythnos gyntaf mis Awst yn cystadlu efo'ch ffrindiau am y gorau i gasglu'r celc mwyaf o fathodynnau, sticeri, beiros a hetiau papur o faes yr Eisteddfod Genedlaethol?

Os felly, llongyfarchiadau, roeddech chi'n eisteddfotwr ifanc, profiadol!

Efallai eich bod chi'n berchen ar lyfr llofnodion hefyd a marciau bonws os buoch chi'n mynd rownd y Maes yn gwerthu'r Daily Post, Western Mail neu Golwg i ennill ychydig o bres gwario - digon i fynd i nôl ysgytlaeth ffrwchnedd o'r stondin laeth o bosib...

Mae Cymru Fyw wedi bod yn tyrchu yn yr atig am rai o'r eitemau y gallai plentyn ei gasglu yn ei fag-plastig-am-ddim o bebyll gwahanol sefydliadau yn y Steddfod ers talwm. Ydyn nhw'n procio'r cof? Cysylltwch os oes gennych chi ychwanegiad i'r casgliad: cymrufyw@bbc.co.uk

• Mwy o straeon yr Eisteddfod ar BBC Cymru Fyw, dolen allanol

Disgrifiad o’r llun,

Doeddech chi'n neb heb un o'r hetiau papur troellog yma yn y 1980au

Disgrifiad o’r llun,

Bathodyn i bawb o bobl y byd

Disgrifiad o’r llun,

Roedd mynd mawr ar sticeri rhaglen blant y 1970au, Miri Mawr, ar stondin cwmni teledu HTV

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o eitemau stondin S4C o'r 1990au - clwtyn molchi Hotel Eddie a phêl roedd modd ei chwythu

Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynodd yr Urdd y cymeriad Pengwyn ar ddiwedd y 70au fel 'Ffrind i Mistar Urdd'

Disgrifiad o’r llun,

Sticeri'r ymgyrch i achub Y Sgrin Roc, sef gwasanaeth newyddion cerddorol 'teletext' S4C i ddilynwyr y sîn roc

Disgrifiad o’r llun,

Ac wrth gwrs, roedd pob eisteddfotwr gwerth ei halen yn cario un o rhain i bobman yn yr 80au!

Disgrifiad o’r llun,

Llofnod Beti George pan oedd yn cyflwyno rhaglen newyddion Heddiw, cyn dyddiau Beti a'i Phobol

Disgrifiad o’r llun,

Pwy sy'n cofio ffrind Dilwyn Young Jones, Pod, ar y rhaglen Camigam?