Bachgen 16 oed o Abertawe wedi marw ar drip ysgol yn Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Michael CuraFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Cura, 16, ar daith feicio gyda'i ysgol yn Sbaen

Mae disgybl chweched dosbarth o Abertawe wedi marw ar drip ysgol yn Sbaen.

Fe gadarnhaodd Ysgol Gatholig Esgob Vaughan fod Michael Cura, 16, wedi marw ddydd Iau yn ystod pererindod i'r wlad.

Dywedodd yr ysgol fod y "marwolaeth sydyn" yn ergyd drom, a'u bod yn "meddwl ac yn gweddïo" dros deulu a ffrindiau'r bachgen.

Cafodd y disgybl ei daro'n wael ac fe geisiodd staff ei helpu, ond erbyn i'r hofrennydd brys gyrraedd roedd wedi marw.

Roedd 21 o ddisgyblion ac wyth o staff yr ysgol ar bererindod seiclo i Santiago de Compostela yng ngorllewin Sbaen.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bachgen yn ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Gatholig Esgob Vaughan

Mae'r ddinas yn Galicia wedi bod yn gyrchfan crefyddol boblogaidd ers dros 1,000 o flynyddoedd, gyda chysegr i Sant Iago yn ganolbwynt iddi.

Roedd y criw o Ysgol Gatholig Esgob Vaughan yn beicio yno er mwyn codi arian i elusen, ac fe ddywedodd yr ysgol eu bod wedi bwriadu seiclo rhwng 50 a 60 milltir y dydd.

Roedd Michael Cura, sydd yn dod o deulu Ffilipino, yn byw yn Nhreforys ac yn was allor yn Eglwys Sacred Heart, Abertawe.

Mae ei deulu yn teithio i Sbaen i gael clywed mwy o fanylion am ei farwolaeth.

'Llawn hwyl'

Dywedodd y Tad Jason Jones, offeiriad plwyf Sacred Heart, fod pawb mewn sioc ar ôl clywed am y digwyddiad a bod teulu a ffrindiau Michael wedi bod mewn offeren arbennig fore ddydd Mawrth cyn hedfan i Sbaen.

"Roedd yn was allor gofalgar, ymroddedig a llawn hwyl oedd yn gynorthwyydd gyda phobl ifanc anabl," meddai'r offeiriad.

"Dyn ifanc gofalgar, poblogaidd yr oedd pawb yn ei hoffi. Bydd colled mawr ar ei ôl.

"Mae'n gyfnod emosiynol i'r teulu a'r holl gymuned."