Arestio dyn a dynes ar ôl darganfod corff yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Emma
Disgrifiad o’r llun,

Emma Louise Baum

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dau berson arall mewn cysylltiad a marwolaeth mam ifanc ym Mhenygroes, Emma Louise Baum.

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a menyw wedi'i harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Mae'r ddau yn bobl leol.

Mae'r heddlu yn dal i apelio am dystion, ac yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a glywodd gythrwfl yn ardal Ffordd Llwyndu ym Mhenygroes rhwng 02:00 a 05:00 fore Llun, 18 Gorffennaf.

Mae dau ddyn gafodd eu harestio ddydd Llun yn dilyn y farwolaeth wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau bod yr achos wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion yr Heddlu, ac mai Emma Louise Baum oedd y ferch gafodd ei darganfod yn farw.

Roedd Emma Louise Baum yn byw gyda'i mab dyflwydd oed mewn tŷ ar Ffordd Llwyndu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ am tua 10:45 ddydd Llun, wedi adroddiadau fod corff wedi ei ganfod, ac mae'r heddlu wedi bod yn y lleoliad ers hynny.

Mae marwolaeth Emma Louise Baum yn cael ei drin fel un "amheus".

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn galwad ffôn toc wedi 4 fore Llun yn dilyn adroddiadau o stŵr. Dywedon nhw fod swyddogion wedi cyrraedd ond nad oedden nhw wedi darganfod unrhyw beth amheus yn yr ardal.

Dywedodd un tyst lleol wrth BBC Cymru ei fod wedi cael ei ddeffro am 03:55 fore Llun, wedi iddo glywed "sgrech".

"Mi rois fy mhen allan drwy'r ffenestr. Mi glywish i rhywun yn gweiddi 'stop, plis, dwi'n sori' ac roedd y person yn swnio mewn panig.

"Edrychais ar fapiau Google ar fy ffôn i weld yn union pa ffordd yr oedd cyfeiriad y sŵn yn dod, fel fy mod yn gallu dweud wrth yr heddlu, a thra oeddwn i ar y ffôn gyda'r heddlu, clywais ôl traed y tu allan i fy nhŷ, sy'n anarferol iawn am ei fod yn ffordd mor dawel.

"Dywedodd yr heddlu eu bod ar y ffordd, ac mi glywish i swn ceir ryw chwarter awr yn ddiweddarach. Mi gymerish i'n ganiataol mai nhw oedd yno.

"Pan ddeffrais yn y bore, fe ges i neges destun gan rhywun yn dweud fod person wedi marw. Mae'n sioc enfawr."

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Iestyn Davies: "Fel rhan o'r ymchwiliad fe fydden ni hefyd yn apelio i unrhyw un sydd gyda system CCTV breifat i gysylltu gyda ni ar y rhif 101, gan roi'r rhif cyfeirnod U105426."