Doedd hi'n dwym?

  • Cyhoeddwyd
Cronfa Ddŵr Taf Fechan yn ystod haf poeth 1976
Disgrifiad o’r llun,

Sych: Cronfa Ddŵr Taf Fechan, Merthyr Tudful yn ystod haf poeth 1976

Mae'r tywydd gwlyb wedi bod yn bwnc trafod yr haf hwn ac mae unrhyw obaith am haf hir a chynnes yn prysur ddiflannu wrth i fis Gorffennaf fynd yn ei blaen. Ond 40 mlynedd yn ôl, roedd hi'n stori dra gwahanol. Roedd y tywydd yn sicr yn bwnc trafod bryd hynny, ond am ei bod hi'n haf sych a chrasboeth. Mae rhai o ddarlledwyr Cymru yn cofio'r dyddiau da:

Torri rheolau

Roedd Huw Llywelyn Davies yn gweithio i HTV yn 1976, ac yn cyflwyno rhaglen nosweithiol 'Y Dydd'. Roedd y tywydd mor boeth yr haf hwnnw fel ei bod nhw'n methu darlledu'n y stiwdio.

"Dwi'n cofio yn haf 1976, r'on i'n cyflwyno rhaglen 'Y Dydd' am 6 o'r gloch y nos, ac mi oedd hi mor dwym yn y stiwdio, hyd yn oed yr adeg hynny o'r dydd, roedd yn torri rheolau iechyd a diogelwch ac felly roedd yn rhaid i fi a Vaughan Hughes gyflwyno tu fa's," meddai.

"Roedd stiwdios HTV yn ardal Pontcanna, Caerdydd, ar y pryd, ac mae gen i gof clir ohonon ni'n darlledu'r rhaglen yn yr awyr agored, ger caeau Llandaf."

Ffynhonnell y llun, Huw Llywelyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Huw Llywelyn Davies a Vaughan Hughes yn darlledu 'Y Dydd' tu allan i stiwdios HTV ym Mhontcanna yn haf 1976

Eisteddfod y llwch

Digwyddiad cofiadwy arall yr haf hwnnw, ac un mae Huw Llywelyn Davies, yn ogystal â'r darlledwyr R Alun Evans a Gwyn Llewelyn yn ei gofio, ydy Eisteddfod chwedlonol Aberteifi a gynhaliwyd yn Awst 1976. Mae'r ŵyl yn cael ei chofio fel "Eisteddfod y llwch".

Roedd y darlledwr R Alun Evans yn sylwebu ar y seremonïau o faes y Brifwyl i'r BBC.

"Dwi'n cofio ei bod hi'n haf poeth iawn, yn sych iawn a bod 'na lwch yn codi yn gymylau," meddai. "Roedd y maes yn eitha' agos at y môr, felly roedd 'na wynt cryf a'r llwch yn codi.

"Roedd y llwch yn gorchuddio'r ceir, roedden nhw gyda'r butraf a welais i erioed. 'Ta faint o lanhau oeddech chi'n neud i'r car, roedd yn ôl yn lwch i gyd y diwrnod wedyn!"

Disgrifiad o’r llun,

R Alun Evans oedd yn sylwebu ar seremonïau'r Eisteddfod ar gyfer y BBC

Darlledwr arall oedd yn gweithio yn y cyfnod oedd Gwyn Llewelyn, ac mae'n cofio haf poeth '76 am resymau personol.

"Dyma'r flwyddyn wnaethon ni fel teulu symud o Gaerdydd i'r gogledd," meddai. "Y cof mwya' sy' gen i ydy gallu manteisio ar y traethau a'r mynyddoedd yn y gogledd, roedd y plant yn fach ac felly fe wnaethon ni ddewis y flwyddyn iawn i adael Caerdydd a dod i'r gogledd.

"Dwi'n cofio gweithio yn Eisteddfod Aberteifi hefyd yr haf hwnnw, yn y llwch, a thorri'r stori fawr, y sgandal Eisteddfodol honno, pan wnaeth Dic Jones ennill y Gadair, cael ei ddiarddel, a'r Gadair wedyn yn mynd i Alan Llwyd.

"Roedd yn gyfnod o newid byd i mi'n bersonol, am fy mod i'n gadael y byd teledu a mynd i gyflwyno radio gyda'r BBC."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hon yn olygfa gyfarwydd iawn ar sawl stryd yn 1976 wrth i'r cronfeydd dŵr sychu

'Rhannu bath gyda fy chwaer'

Roedd yn gyfnod o newid byd i Gwyn Llewelyn, ond mi wnaeth haf poeth '76 osod trywydd i fywyd Derek Brockway, dyn tywydd BBC Cymru, a oedd yn wyth oed ar y pryd.

"Fe ddechreuodd fy niddordeb i mewn tywydd, diolch i haf 1976," meddai Derek. "R'on i'n wyth mlwydd oed. Dwi'n cofio bod y dŵr yn cael ei ddiffodd am gyfnodau, ac oedd yn rhaid i fi rannu dŵr bath gyda fy chwaer a defnyddio dŵr golchi llestri i roi i'r blodau.

"Fe aethon ni ar wyliau teuluol i Eastbourne y flwyddyn honno a dwi'n cofio'r daith yn y car, gweld yr holl sychder ac mi oedd 'na lot o danau gwair hefyd.

"Dwi'n cofio gwylio Jack Scott, dyn tywydd y BBC ar y pryd a meddwl mai meteorolegydd yr o'n i am fod ac fe wnaeth fy nhad brynu thermomedr i fi. Darllen am yr haf twym a gwylio'r teledu y flwyddyn honno oedd dechre'r diddordeb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Oes 'na ddŵr yna?

Felly beth ddigwyddodd yn yr haf chwedlonol hwnnw, a pha dywydd allwn ni ddisgwyl yng Nghymru dros yr wythnosau i ddod?

"Y rheswm gafon ni haf mor dwym a sych yn 1976 oedd bod 'na floc yn y patrwm tywydd, lle roedd gwasgedd uchel wedi ffurfio ac aros am gyfnod hir - mae hyn yn digwydd weithiau - a dyna ddigwyddodd yn 1976," meddai Derek.

"Roedd 'na dywydd sych, llawer o haul a thymheredd uwch na'r cyfartaledd. Roedd hydref 1975 a'r gwanwyn ddechre 1976 wedi bod yn sych hefyd, felly roedd y cronfeydd dŵr yn isel cyn dechre.

"O ran eleni, fe roedd 'na gyfnod o wasgedd uchel a thywydd braf ddiwedd Mai a dechrau Mehefin, ac yn aml pan mae hynny'n digwydd yn gynnar yn y flwyddyn, mae tywydd gwlyb ac ansefydlog yn gallu dilyn.

"Mae 'na gyfnod sefydlog a thywydd braf i ddod cyn diwedd Gorffennaf, ond does dim arwydd bod 'na heatwave i ddod, na chyfnodau hir o dywydd sefydlog a phoeth cyn diwedd yr haf."