Cwmni bysiau ger Wrecsam yn diswyddo 320 o staff

  • Cyhoeddwyd
GHA CoachesFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery

Mae cwmni bysiau yn ardal Wrecsam wedi cadarnhau heddiw eu bod nhw yn nwylo'r gweinyddwyr ac nad ydyn nhw bellach yn masnachu.

Roedd GHA coaches, sydd a'i bencadlys yn Rhiwabon, yn cyflogi 320 o weithwyr ond mae'r rheiny bellach wedi cael clywed eu bod nhw wedi colli'u swyddi.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn defnyddio cynlluniau argyfwng i geisio sicrhau bod cymaint â phosib o wasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan GHA Coaches yn cael eu rhedeg dros dro gan weithredwyr eraill.

Cafodd GHA Coaches ei sefydlu gan Eifion Lloyd Davies o Gorwen yn 1990, ac roedd ganddynt 230 o gerbydau mewn pum safle yng ngogledd Cymru, Swydd Caer a Sir Amwythig.

Heb dalu trethi

Mewn datganiad ddydd Iau fe gadarnhaodd GHA Coaches fod y busnes bellach yn nwylo'r gweinyddwyr Grant Thornton UK LLP, a hynny ar ôl iddyn nhw gael gorchymyn dirwyn i ben gan y Swyddfa Dreth am fethu â thalu trethi.

"Dyw GHA Coaches ddim yn gweithredu fel busnes bellach ac yn anffodus mae'r staff wedi colli'u swyddi heddiw," meddai Jason Bell, un o'r gweinyddwyr.

"Fe fyddwn ni'n edrych ar bob opsiwn posib er mwyn ceisio atgyfodi unrhyw ran o'r busnes. Fodd bynnag, ein cyfrifoldeb pennaf ar hyn o bryd fydd diogelu diddordebau'r credydwyr."

Ychwanegodd Jason Bell eu bod yn trafod â'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, Swydd Caer a Sir Amwythig sydd wedi'u heffeithio er mwyn ceisio dod i drefniadau newydd ynglŷn â'r gwasanaethau bysus yn yr ardal.

'Bylchau yn y gwasanaeth'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ddinbych, un o'r rhai sydd wedi'u heffeithio: "Ni fydd pob siwrnai yn cael eu gweithredu yn syth ac mae'n bosib y bydd yna fylchau yn y gwasanaeth, gan y gallai'r gwaith o ddod o hyd i weithredwyr newydd gymryd rhai dyddiau.

"Mae disgwyl hefyd y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno ar amserlen argyfwng llai. Bydd y wybodaeth yma yn cael ei ddiweddaru gan y Cyngor dros y dyddiau nesaf.

"Fel rhan o'r ymateb argyfwng, bydd y cyngor yn rhoi blaenoriaeth i fysiau ysgol a phlant sydd yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth ysgol am ddim, ac, yn dilyn trafodaethau gyda phenaethiaid a gweithredwyr bysiau, mae'r trefniadau canlynol mewn lle ar gyfer ysgolion.

Mae Cyngor Wrecsam yn dweud eu bod yn "pryderu yn fawr" am y sefyllfa.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o sefyllfa GHA Coaches a'u bod yn "gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn lleihau unrhyw effaith ar wasanaethau bws pwysig yn yr ardal".

Dywedodd Aelod Cynulliad De Clwyd, Ken Skates, fod y newyddion yn "ergyd drom" i'r ardal, ac y byddai'n ceisio helpu'r rheiny oedd wedi colli'u swyddi "mewn unrhyw fodd posib".

Ychwanegodd Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones: "Mae llawer o fy etholwyr i'n wynebu trafferthion o ganlyniad i hyn, ac i lawer o bobl dyma'r modd y maen nhw'n teithio i Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Wrth i'n cynghorau lleol weithio er mwyn darparu gwasanaethau amgen, rwy'n cynnig fy nghefnogaeth lawn i'r gweithwyr hynny sydd wedi'u heffeithio yn ystod cyfnod mor anodd ac ansicr."