Darganfod y 26 o blant fu ar goll ym Mannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd
hofrennydd

Mae'r 26 o blant ifanc oedd ar goll ym Mannau Brycheiniog wedi cael eu darganfod yn saff, meddai'r heddlu.

Does yr un ohonyn nhw wedi cael anafiadau difrifol, yn ôl y swyddogion, ac mae'r rhan fwyaf wedi dod lawr y mynydd, gyda'r gweddill ar y ffordd.

Fe aeth y plant, tua 15 oed, ar goll ger Llyn y Fan Fach ychydig i'r gogledd o Abercraf ym Mhowys.

Daw'r grŵp o St Albans yn Lloegr ac roedd y weithgaredd yn rhan o Wobr Dug Caeredin.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am y sefyllfa tua 13:00 a bu gwylwyr y glannau, tîm achub a'r heddlu yn chwilio amdanyn nhw cyn i hofrennydd eu darganfod ar y mynydd.

Maen nhw'n credu bod y grŵp wedi mynd ar goll mewn cymylau isel ar y mynyddoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Rydym yn falch o gadarnhau wedi'r chwilio ar Fannau Brycheiniog y prynhawn yma, bod y 26 o aelodau o'r grŵp wedi cael eu darganfod.

"Mae'n braf cael dweud hefyd y cafodd neb eu hanafu, ond er mwyn bod yn saff, maen nhw wedi mynd i'r ysbyty.

"Mae angen diolch i'r Tîm Achub Mynydd a chriw hofrennydd Gwylwyr y Glannau am eu gwaith llwyddiannus."