Stephen Crabb yn y ras i arwain y blaid Geidwadol

  • Cyhoeddwyd
crabb

Mae Stephen Crabb wedi cyhoeddi ei fwriad i ymgeisio ar gyfer swydd arweinydd y Ceidwadwyr.

Dywedodd AS Preseli Penfro y bydd yn y ras i olynu i David Cameron ar ôl i'r Prif Weinidog ymddiswyddo yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mr Crabb, Ysgrifennydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, yw'r cyntaf i gyhoeddi y bydd yn sefyll a gwnaeth hynny mewn erthygl i'r Daily Telegraph. , dolen allanol

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, sy'n 43 oed, wedi cynrychioli etholaeth Preseli Penfro ers 2005 ac mae ei ymgais yn cael ei gefnogi gan yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid.

Yn ogystal â Mr Crabb, mae disgwyl i Boris Johnson a'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, gystadlu am yr arweinyddiaeth.

Os oes mwy na dau ymgeisydd yn ymgeisio, bydd etholiad yn cael ei gynnal ymysg ASau Torïaidd i ddidoli'r ymgeiswyr, a bydd dau enw yn cael eu rhoi gerbron yr aelodau.

Dywedodd Mr Crabb: "Yn gyntaf mae'r rhaid i ni uno. Dros flwyddyn yn ôl fe gafodd pob aelod seneddol Ceidwadol ei ethol ar faniffesto oedd yn gaddo refferendwm. Mae'r ymgyrch yna drosodd."

Dywedodd fod yn rhaid nawr gweithredu yn unol â barn y bobl.

"Roedd y penderfyniad yn un clir: does yna ddim troi yn ôl. Does dim modd cynnal ail refferendwm.

"Yr hyn sydd angen nawr yw cyfeiriad clir, nid rhagor o ansefydlogrwydd."

Ychwanegodd na fyddai, pe bai yn cael ei ethol, yn cynnal etholiad cyffredinol buan, gan ddweud y byddai hynny hefyd yn arwain at ansefydlogrwydd.