Cabinet Cymru yn trafod eu hymateb i'r refferendwm

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones eisoes wedi amlinellu blaenoriaethau ei lywodraeth wrth ymateb i ganlyniad y refferendwm

Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru'n cynnal cyfarfod brys ddydd Llun i drafod effaith canlyniad y refferendwm ar y wlad.

O ganlyniad i'r penderfyniad i adael yr undeb, mae Carwyn Jones wedi amlinellu chwe maes sydd angen eu blaenoriaethu, gan gynnwys diogelu swyddi a sicrhau cyllid.

Bydd y Cabinet yn canolbwyntio ar sut i weithredu'r blaenoriaethau hyn yn syth.

YN FYW: Yr ymateb i'r refferendwm ar 27 Mehefin , dolen allanol

Mwy am Refferendwm yr UE ar Cymru Fyw , dolen allanol

Goblygiadau'n 'aneglur'

"Bydd hwn yn un o gyfarfodydd pwysicaf y Cabinet ers datganoli, a byddwn yn edrych ar asesiad cychwynnol o'r goblygiadau posib i Gymru yn sgil y canlyniad hwn," meddai'r prif weinidog.

"Byddwn yn cytuno ar sut i symud 'mlaen gyda blaenoriaethau er lles y wlad.

"Ddydd Gwener fe wnes i amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer gweithredu, gan gynnwys gweithio'n agosach fyth â busnesau Cymru i warchod swyddi, adnewyddu'r cydweithrediad rhynglywodraethol ac ymrwymiad i ddiogelu a chynnal cyllideb Ewropeaidd i Gymru am gyhyd â phosib.

"Mae gwir oblygiadau'r bleidlais hon yn bell o fod yn glir a fyddan nhw ddim am beth amser eto.

"Ond mae un peth yn sicr. Rydyn ni fel Llywodraeth Cymru'n benderfynol o barhau i weithredu'n rhyngwladol, gan edrych allan am a chroesawu busnes.

"Dyna beth fydd yn cynnal hyder busnesau, a dyna fydd yn helpu buddsoddwyr i wneud y penderfyniadau cywir yn yr amgylchedd newydd, ansicr hwn."

Ychwanegodd: "Mae'n bwysig peidio anghofio'r argyfwng dur, a ninnau'n gweithio'n galed i barhau i geisio datrys hynny.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata i gefnogi gweithwyr dur wrth i ni edrych tuag at yr heriau aruthrol sydd wedi'u cyflwyno yn sgil canlyniad y refferendwm."

Mae nifer wedi codi'r cwestiwn pam bod Cymru wedi pleidleisio i adael, yn enwedig mewn rhai o gadarnleoedd y Blaid Lafur, er gwaethaf ymgyrch y blaid dros Aros.

Mae Mr Jones wedi dweud fod y refferendwm wedi'i gynnal yn rhy agos i etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad Llafur Eluned Morgan, roedd yn gamgymeriad i osgoi siarad am Ewrop cyn yr etholiad.