System sain i geisio atal ysmygu tu allan i ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Smocio

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu defnyddio system sain i geisio perswadio ysmygwyr i beidio tanio sigarét tu allan i'r ysbyty.

Nhw fydd y bwrdd iechyd cyntaf i wneud hyn ac mae'r botymau coch wedi eu gosod yn agos i fynedfa ysbyty Bronglais, Glangwili, Llwynhelyg ac ysbyty Tywysog Philip.

Bydd modd i bobl bwyso'r botwm a bydd neges sain i'w glywed bydd yn atgoffa ysmygwyr nad ydyn nhw i fod i ysmygu ar safle'r ysbyty.

Ers haf 2012 mae gwaharddiadau ysmygu wedi bod mewn grym ar dir y rhan fwyaf o ysbytai Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod nhw'n cael cwynion ynglŷn â phobl yn ysmygu tu allan i ysbytai

Dywedodd Teresa Owen o'r Bwrdd Iechyd: "Mae gan bawb yr hawl i anadlu awyr iach, yn enwedig pan maen nhw'n ymweld â chanolfan iechyd ac mi ydyn ni yn gyson yn derbyn cwynion am bobl yn ysmygu ar ein tir. Mi ydyn ni'n deall bod ymweld ag ysbyty weithiau yn gallu bod yn straen ond mi ydyn ni'n disgwyl ysmygwyr i gadw at ein polisi dim ysmygu ni.

Mi allan nhw ddisgwyl y byddwn ni yn gofyn iddyn nhw adael safle'r ysbyty os ydyn nhw yn awyddus i barhau i ysmygu."

Mae polisi'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnwys y defnydd o e-sigaréts.