Seland Newydd 39- 21 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Toby

Er ymdrech arwrol Cymru colli fu ei hanes eto yn erbyn y Crysau Duon ym mharc Eden. Roedd hi'n gêm gynhyrfus o'r dechrau gyda Taulupe Faletau yn cael cais o fewn yr wyth munud cyntaf.

Daeth cais arall i Gymru wedi 30 munud- y tro yma gan Rhys Webb a Chymru oedd ar y blaen wedi'r hanner cyntaf, 15-18.

Ond fe darodd Seland Newydd yn ôl yn yr ail hanner ac fe ildiodd Cymru 21 o bwyntiau yn chwarter awr olaf y gêm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mi benderfynodd y dyfarnwr beidio caniatáu cais gan y ddau dîm, un gan TJ Perenara a chais hwyr gan Faletau.

1953 oedd y tro olaf i Gymru drechu Seland Newydd ac o dan arweinyddiaeth Warren Gatland dim ond un gêm mae'r tîm cenedlaethol wedi ennill yn erbyn un o dimau hemisffer y de.

Mae hanes wedi ail- adrodd ei hun unwaith eto.