Ymgyrchoedd refferendwm yr UE 'fel sŵn aflafar'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Charlotte Church wedi beirniadu'r ddwy ymgyrch yn y refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud fod codi bwgannod ar bobl sy'n ceisio penderfynu sut i bleidleisio yn annheg.
Roedd yn siarad â rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ar drothwy ei pherfformiad yn 'The Last Mermaid', rhan o Ŵyl y Llais Caerdydd sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd.
Dywedodd ei bod yn teimlo cyfrifoldeb i ddweud yr hyn mae'n credu ar faterion cyffredinol, ac wrth gyfeirio at ei rôl newydd, ychwanegodd ei bod yn "hyfryd gallu gwneud hynny drwy gelf - gan mai dyna'r ydw i mewn gwirionedd - cantores ac artist."
Dywedodd fod yr holl siarad gan yr ymgyrchoedd Aros a Gadael fel "sŵn aflafar", a bod y codi bwgannod o'r ddwy ochr yn hynod o annheg ar y bobl hynny sy'n ceisio deall y sefyllfa er mwyn gwneud penderfyniad.
Ychwanegodd y byddai'n bwrw pleidlais yn y refferendwm ond bod yr ymgyrchu wedi bod yn "siomedig iawn - yn enwedig y propaganda sy'n cael ei daflu o gwmpas."
Mae Charlotte yn un o nifer o artistiaid bydenwog sy'n cymryd rhan yng Ngŵyl y Llais sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd tan 12 Mehefin.
Ymhlith yr artistiaid eraill mae Bryn Terfel, John Cale, Georgia Ruth, Gwyneth Glyn, Scritti Politti a Gwenno.