Galw am gyfreithloni canabis at ddefnydd meddygol
- Cyhoeddwyd
Dylid cyfreithloni canabis ar gyfer defnydd meddygol, yn ôl arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Pippa Bartolotti.
Bydd Ms Bartolotti yn cyflwyno'r achos dros newid y gyfraith mewn araith ym Mhrifysgol Caerdydd nos Iau.
Mae cyfreithloni canabis wedi bod yn un o bolisiau'r Blaid Werdd ers peth amser.
Dywedodd Ms Bartolotti: "Nid oes unrhyw un wedi marw o ddefnyddio canabis, mewn gwirionedd, mae'r manteision o ddefnyddio canabis i drin epilepsi a chanser eisoes wedi profi yn effeithiol."
Fe ychwanegodd: "Mae rhai sefydliadau masnachol yn y DU eisoes yn defnyddio rhannau o'r planhigyn canabis, tra bod nifer fawr o'r boblogaeth gyfan yn cael eu herlyn am ei ddefnyddio - hyd yn oed os yw'n arbed bywyd. Yn syml, mae hyn angen newid."
Dywedodd Ms Bartolotti fod canabis yn cael ei labelu'n anghywir fel cyffur sy'n arwain i ddefnyddio sylweddau caletach fel cocên a heroin.