49 o danau gwair bwriadol mewn 12 awr yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân yn dweud ei fod wedi gorfod delio â 49 o danau gwair bwriadol o fewn dim ond 12 awr.
Mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi cael eu galw i nifer o leoliadau i ddelio â'r tanau bwriadol, yn cynnwys un oedd wedi lledu i 1,000 o deiars ar fferm yn Ynyshir yn y Rhondda.
Yn ystod yr un cyfnod ddydd Mercher, cafodd y gwasanaeth 500 o alwadau ac mae 73 o injans tân wedi cael eu defnyddio.
Mae'r rhan fwyaf o'r tanau nawr wedi eu diffodd a bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddal y troseddwyr.
Mae llosgwyr wedi cael eu cyhuddo o gynnau dros 400 o danau gwair yn ne Cymru ers dechrau mis Ebrill, o'i gymharu â thua 120 yn yr un cyfnod y llynedd.
Mae'r tanau wedi costio'r gwasanaeth tua £795,000 ac wedi "ymestyn" criwiau, yn ôl y gwasanaeth.
Yr ardal sydd wedi ei effeithio arni waethaf yw Rhondda Cynon Taf, gyda 145 o danau, a Chaerffili, gyda 58.
Fe wnaeth y diwrnod gwaethaf yn y cyfnod weld 55 o danau mewn un diwrnod.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân De Cymru wrth raglen BBC Radio Wales, Good Morning Wales: "Mae hi'n broblem benodol.
"Mae â'r potensial i effeithio ar fywyd ac eiddo. Os ydych chi'n cysidro gwneud y fath beth, rwy'n gofyn i chi stopio ar unwaith."
Yng ngogledd Cymru, roedd nifer o danau bwriadol wedi eu cynnau ger Blaenau Ffestiniog dros ddwy noson yr wythnos diwethaf.