Laos: Adnabod corff Johanna Powell
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes o Gaerdydd aeth ar goll yn ystod taith cwch ar afon Mekong yn Laos wedi cadarnhau mai ei chorff hi gafodd ei ganfod.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi cysylltu â theulu Johanna Powell, 37 oed.
Aeth Ms Powell, golygydd lluniau gydag Adran Newyddion BBC Cymru, ar goll wedi i'r cwch yr oedd yn teithio ynddo suddo ar ôl taro creigiau ddydd Sadwrn.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud wrth ei theulu, sy'n byw yn Rhydyfelin ger Pontypridd, bod awdurdodau lleol yn Laos wedi adnabod y corff yn swyddogol.
Roedd Ms Powell yn teithio gyda thri ffrind o Gymru ac ymhlith 10 o bobl oedd ar fwrdd y cwch.
Llwyddodd y naw arall i nofio i'r lan, ond doedd dim golwg o Ms Powell.
Mae'n debyg fod y cwch ar ddiwrnod olaf taith ddeuddydd i lawr yr afon pan drodd wyneb i waered tua 10:00 fore Sadwrn.
Dyw hi ddim yn glir beth oedd achos y ddamwain ond mae 'na adroddiadau bod y cwch wedi suddo yn gyflym ar ôl taro craig.
Mae'n debyg fod criw o dri ar y cwch.
Mae swyddogion Llys Genhadaeth Prydain mewn cyswllt â'r awdurdodau lleol yn ceisio cael mwy o wybodaeth ac yn darparu cymorth i'r teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2015