Llofruddiaeth Caerdydd: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae Sammy Almahri, sy'n cael ei amau o ladd Nadine Aburas yng Ngwesty'r Future Inn ym mae Caerdydd ar Nos Galan y llynedd, wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon yn y brifddinas.
Cadarnhaodd Almahri ei enw a dywedodd nad oedd ganddo unrhyw gyfeiriad yn y wlad hon.
Ni gyflwynwyd ple yn y gwrandawiad a barodd llai na dau funud.
Mae Mr Almahri, yn cael ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd am 09:00 ddydd Gwener.
Fe deithiodd Almahri i ddwyrain Affrica wedi i gorff Ms Aburas gael ei ddarganfod.
Daeth yr awdurdodau o hyd i Sammy Almahri sy'n 44 oed mewn coedwigoedd ger dinas Iringa yn Tanzania ar 20 Ionawr.
Arestio
Fe gafodd ei arestio a'i gludo i lys yn Dar-es-Salaam, lle cafodd cais i'w estraddodi ei wneud gan heddlu Prydain.
Fe ddechreuodd Sammy Almahri berthynas gyda Nadine Aburas ar ôl cyfarfod ar y we - ac fe ddaeth i Gymru i fod gyda hi ar Nos Galan, ac i gyfarfod ei theulu. Roedd y ddau wedi bod mewn perthynas dros y we ers tair blynedd.
Wedi i'r awdurdodau ddarganfod corff Nadine yn y gwesty, bu heddluoedd o Brydain, yr UDA a dwyrain Affrica yn chwilio am Sammy Almahri.
Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i'r awdurdodau yn Tanzania am eu cymorth i'w arestio, ac i Wasanaeth Erlyn y Goron am eu rhan yn sicrhau ei estraddodiad.