Teulu'n chwilio Llundain am eu mab sydd ar goll

  • Cyhoeddwyd
Owain Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain Roberts ar goll ers 10 Mawrth, 2012

Dair blynedd wedi i dechnegydd sain o Aberteifi fynd ar goll, mae ei rieni wedi mynd i Lundain i geisio cael mwy o wybodaeth am ddirgelwch ei ddiflaniad.

Ar fore Sadwrn, 10 Mawrth 2012, gadawodd Owain Roberts ei gartref i fynd allan i gerdded. Roedd y dyn 36 oed i fod i gwrdd â'i dad yn y Mwnt, rhyw bedair milltir o Aberteifi, ond ni chyrhaeddodd, ac mae wedi bod ar goll ers hynny.

Mae rhaglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru wedi dilyn taith y Parchedig Irfon Roberts a'r wraig Mair i Lundain wrth iddyn nhw geisio dod i wybod mwy am beth yn union sydd wedi digwydd i'w mab.

Treuliodd Owain dair blynedd yn ardal Acton yn Llundain fel myfyriwr, ac mae ei rieni'n credu ei bod hi'n bosib y byddai wedi dychwelyd yno.

'Man naturiol i fynd'

"Rwy'n teimlo ym mêr fy esgyrn ei fod e'n fyw - ei fod e' allan yno'n rhywle, o bosib yn chwilio amdano ei hun," meddai Irfon Roberts.

"Mae Acton yn fan naturiol i fynd oherwydd fe dreuliodd Owain flynyddoedd yma yno astudio'r gitâr, ac ry'n ni'n meddwl tybed a oes rhyw gyswllt rhwng ei ddiflaniad e' a'r lle yma.

"'Dyn ni ddim wedi dod gan feddwl y byddwn ni'n ei ffeindio fe yn wyrthiol na dim byd felly. Ond yn hytrach, y gobaith yw y gallwn ni wneud dolenni cyswllt gyda phobol yn yr ardal yma all chwilio ar ein rhan ni."

Ymhlith y rhai fuodd Mr a Mrs Roberts yn siarad â hwy yn Llundain oedd gweithwyr yr Hope Centre, sy'n gweithio â phobl sy'n chwilio am loches.

Fe wnaethon nhw roi addewid i'r rhieni y bydden nhw'n gwneud ymholiadau pellach am Owain ymhlith cymunedau'r digartref a'r rheiny sy'n sgwatio mewn mannau ar draws y ddinas.

Mae sin gerddoriaeth fywiog yn Acton hefyd, ac roedd gweithwyr yr Hope Centre yn dweud y bydden nhw'n holi ymhellach yn y cylchoedd hynny'n ogystal am wybodaeth bosib am Owain, oedd yn gitarydd gyda grŵp roc The Reasoning.

Disgrifiad o’r llun,

Dilynodd Manylu daith Irfon a Mair Roberts i Lundain fel rhan o'u chwilio am eu mab

"Dair blynedd mlaen, mae'n dal i ddolurio," meddai Mair, mam Owain.

"Ond o leia' nawr ry'n ni'n gwybod fod pobl yn gwneud ymdrech ar ein rhan ni i fynd i fyd na fydden ni'n medru cyrraedd. Felly, dim ond gobeithio nawr bod rhyw oleuni ym mhen draw'r twnnel i ni."

Yn ôl Irfon, mae eu hymweliad â Llundain yn rhoi hwb o'r newydd i'w hymdrechion i ddod o hyd i wybodaeth a allai arwain at ddatrys y dirgelwch am ddiflaniad eu mab.

"Hyd nes y daw tystiolaeth i'r gwrthwyneb, fe fyddwn ni'n parhau i obeithio," meddai.

"Dwi'n ymwybodol y gallwn ni fod yn twyllo'n hunain a diau fod yna rai yn meddwl felly, ond nid nhw sydd yn ein sefyllfa ni."

Rhagor ar Manylu ar BBC Radio Cymru am 12.30 brynhawn Iau.