Chwaraewr wedi 'parhau i gynhyrchu a darparu steroids'

  • Cyhoeddwyd
Dean ColcloughFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Dean Colclough ei wahardd rhag chwaraeon am wyth mlynedd

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi canfod bod cyn chwaraewr rygbi o Abertawe wedi parhau i gynhyrchu a darparu steroids anabolig er iddo gael ei wahardd rhag ymgymryd ag unrhyw chwaraeon am eu gwerthu.

Fe gafodd Dean Colclough - oedd yn chwarae yn safle'r bachwr i glwb rygbi Abertawe - ei gyhuddo o'r drosedd gan UKAD (UK Anti-doping) y llynedd.

Roedd hi'n anghyfreithlon i gynhyrchu'r steroids anabolig ac roedden nhw'n cael eu gwerthu fel ychwanegion deietegol (dietary supplements).

Mae Week In Week Out wedi canfod bod Dean Colcough yn cynhyrchu a hybu gwerthiant ychwanegyn o'r enw M1T, drwy ei fusnes ar-lein, Dragon Nutrition.

Mae Mr Colclough wedi mynnu nad oedd wedi torri unrhyw reolau yn fwriadol, a dywedodd ei fod wedi gwerthu'r busnes erbyn hyn.

Fe ymchwiliodd Week In Week Out i Dragon Nutrition yn rhan o raglen ehangach yn archwilio'r diwydiant ychwanegion chwaraeon (sport supplements) ledled y DU - sydd erbyn hyn werth £350m y flwyddyn, ac wedi mwy na dyblu yn ei faint dros gyfnod o bum mlynedd.

Prynu M1T

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r diwydiant ychwanegion deietegol ar gyfer ffitrwydd werth £350m y flwyddyn, ac wedi mwy na dyblu yn ei faint dros gyfnod o bum mlynedd.

Fe brynodd y rhaglen M1T - sy'n cael ei adnabod fel prohormon - drwy werthwr oedd yn cael ei argymell ar wefan Dragon Nutrition. Mae prohormonau yn cael yr un effaith â steroids ar y corff, ac mae'n bosib y gallan nhw fod yn beryglus.

Weithau, mae'n nhw'n cael eu galw'n steroids designer. Mae Nick Wojeck o UKAD yn egluro:

"Yn sylfaenol, mae prohormonau yr un fath â steroids felly fe wnawn nhw unai gael effaith ar y corff yn syth wedi i chi eu cymryd neu fe fyddan nhw'n newid rhyw fymryn yn y corff ac yn ymddwyn fel steroid. Felly ar y wê, mae'r enwau gwahanol 'ma sy'n cael eu defnyddio - i bob perwyl - yn steroids i gyd.

"'Falle y clywch chi'r enw designer steroid o dro i dro pan mae 'na steroid newydd does neb yn gwybod amdano fe - er enghraifft petae cemegydd yn cynhyrchu steroid newydd er mwyn osgoi cael ei ganfod, neu drwy ddyfeisio enwau i osgoi ymddangos ar y Rhestr Cyffuriau Dan Reolaeth."

'ÔL-EFFEITHIAU AMHLESERUS'

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Tom Morgan ei fod wedi dioddef ôl-effeithiau amhleserus oan iedd yn defnyddio'r sylweddau

Fe gymrodd Tom Morgan - sy'n hoff o fynd i'r gampfa a chwarae rygbi - ychwanegyn 'prohormon' heb sylwi'n iawn beth oedd y sylwedd. Fe roddodd e'r gorau iddi wedi iddo dioddef ôl-effeithiau amhleserus:

"Pan nes i eu cymryd nhw gyntaf, ges i ganlyniadau cryf - pan ddechreuais i'n ôl ar ô torri 'nghoes, fe helpodd e fi i ennill cyhyr yn ôl yn gyflym, ond fe ges i broblemau gyda fy arennau, roedd 'na blorod ar fy nghefn i ac fe ddechreuais i droi fymryn yn ymosodol - do'n i ddim yn hoffi hynny felly nes i roi'r gorau i'w cymryd nhw.

Roedd Tom - sy'n dod o Ben-y-bont ar Ogwr - yn gwario hyd at £300 bob mis ar ychwanegion - tan i Week In Week Out ei herio i roi'r gorau iddi am fis, tra'n parhau i fwyta ac ymarfer corff fel arfer, i weld fyddai'n gwneud gwahaniaeth. Mae'r canlyniad yn cael ei ddatgelu yn y rhaglen.

Fe ymchwiliodd y Swyddfa Gartref i 'M1T', gan ddod i'r casgliad ei fod yn gyffur Dosbarth C - ac felly yn anghyfreithlon i'w gynhyrchu neu ei ddarparu.

Fe gafodd samplau o M1T eu hanfon ar y Ganolfan Rheoli Cyffuriau yn Llundain i'w dadansoddi. Fe brofodd Dr Chris Walker y sylwedd a phenderfynu - oherwydd ei strwythur cemegol - y byddai'n cael ei reoli fel cyffur Dosbarth C, dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ac Atodiad 4 Rhan 2 Rheoleiddio Camddefnydd Cyffuriau 2001.

Fe gysylltodd Week In Week Out â Dean Colcough. Mae e'n mynnu na wnaeth o geisio torri unrhyw gyfreithiau, ac mae'n dweud ei fod e wedi gwerthu'r busnes erbyn hyn.

Week In Week Out, BBC One Wales, 22:40 nos Fawrth, Mawrth 3.