Gofal brys: Methu targed amseroedd aros unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Gofal BrysFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae adrannau gofal brys ysbytai Cymru wedi methu targed amseroedd aros i drin cleifion unwaith eto mis Ionawr, er gwelliant o ffigyrau mis Rhagfyr.

Targed Llywodraeth Cymru yw y dylai 95% o gleifion aros am lai na pedair awr mewn adrannau gofal brys.

Ym mis Ionawr, cafodd 82.3% o gleifion eu trin o fewn pedair awr.

Mae'n welliant ar ffigwr mis Rhagfyr, oedd yn 81%, ond yn llawer is nag Ionawr 2014, oedd yn 88.9%.

Fe wnaeth cyfanswm o 73,199 o bobl fynd i adrannau brys fis diwethaf.

Fe wnaeth 3,051 ohonynt dreulio dros 12 awr yn yr adran frys - sydd yn 4.2% o'r cyfanswm.

Mae'r nifer sy'n gorfod treulio dros 12 awr mewn adrannau brys wedi cynyddu yn fawr ers mis Rhagfyr 2014. 2,488 oedd y nifer bryd hynny.

'Dan bwysau cynyddol'

Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Helen Birtwhistle, bod gwasanaethau iechyd brys wedi bod "dan bwysau cynyddol" ymhob rhan o'r DU yn y misoedd diwethaf.

"Mae GIG Cymru yn gweithio i ddatrys y galw yma a lleihau'r aros i gleifion ac mae'n hanfodol ein bod ni'n adnabod eu hymdrech mewn cyfnodau anodd."

Ychwanegodd: "Ond mae'n rhaid i ni gofio bod amseroedd aros yn adlewyrchu ond un rhan o'r hyn mae'r GIG yn ei wneud.

"Mae hefyd yn hanfodol nad yw adrannau brys yn cael eu hystyried ar ben eu hunain."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod pwysau'r gaeaf yn effeithio pob rhan o'r DU, a bod adrannau brys Cymru yn gweld mwy o gleifion heddiw o'i gymharu ag adeg datganoli.

Dywedodd y llefarydd bod y canran sy'n cael eu trin o fewn pedair awr wedi cynyddu ers mis diwethaf, ond bod "nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr yn annerbyniol".