Torri darpariaeth meithrin Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Fe fydd darpariaeth meithrin yn cael ei dorri yn Rhondda Cynon Taf o 1 Medi ymlaen.
Bydd addysg rhan amser yn cael ei gynnig i blant yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed, a llawn amser wedi iddyn nhw droi'n bedair.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn disgwyl arbed £2.16m y flwyddyn o ganlyniad i'r toriadau, sy'n rhan o gynlluniau i arbed £70m dros bedair blynedd.
Ymgyrchodd rhieni yn erbyn y toriadau llynedd, gan fynd â'u hachos i'r Uchel Lys.
Dyfarnodd y llys bod penderfyniad cyntaf y cyngor i ddechrau addysg meithrin i blant pedair oed, yn hytrach na thair oed, yn "anghyfreithlon" oherwydd y broses ymgynghori a ddefnyddiwyd.
Daeth i'r amlwg ym mis Rhagfyr bod yr awdurdod wedi gorfod talu £144,000 ar gyfer costau cyfreithiol yr ymgyrchwyr.
Ond y tro yma, cafodd proses ymgynghori gwahanol ei defnyddio ac mae'r toriadau wedi cael eu cymeradwyo.